Aelodaeth
Pwy yw aelodau Creigiau 23?
Fel dwedwyd eisioes nid ydym yn sefydliad gyfrinachol nac yn elitaidd ond ir gwrthwyneb.
Daw ein aelodau o bob ran o gymdeithas ac yn amrywio mewn oedran o 35 i 70!
Mae'r aelodaeth yn cynnwys cigyddion, deintyddion, athrawon, doctoriaid, peiriannwyr, rheolwyr banc, adeiladwyr, ymgynghorwyr, gwleidyddwyr ac ambell i un sydd wedi ymddeol.
Sut i ymuno?
Maer aelodaeth wedi ei gyfyngu i 55 aelod oherwydd dynar nifer mwyaf gall y clwb golff eu cymeryd ar gyfer ein cyfarfod.
Fel arfer yn ystod y flwyddyn ceir un neu ddau le gwag felly os oes gennych ddiddordeb i ymuno yna ewch ir darn atborth ar y we a llenwch y ffurflen gais.
Oes ydych yn newydd ir ardal a hoffech ymuno fel gwestai yn gyntaf , nodwch hyn yn y darn atborth ac fe wnewn nich helpu. Ewch i tudalen Cysylltu â Ni
Oes yna reolau pendant?
Nac oes ond fe ddisgwylir i chi ymddwyn mewn modd fydd yn dangos parch i Creigiau 23.
Yn ogystal rhaid gwisgo siwt a thei ar gyfer y cyfarfodydd ac os nad ydych yn aelod or clwb golff rhaid ymuno fel aelod cymdeithasol.
Beth yw'r gost?
Aelod or clwb golff: £150 y flwyddyn
Torrir hwn i lawr fel hyn:
- Cost aelodaeth i Creigiau 23 = £15.
- Cost y 10 cyfarfod ( cinio tri chwrs a siaradwr) 10 x £12.50 = £125
- Cais am y raffle misol = 10 x £1 = £10.
Heb fod yn aelod or clwb golff: £210 y flwyddyn
Torrir hwn i lawr fel hyn:
- £145 fel aelod o'r clwb golff uwchben. Taladwy i Creigiau 23.
- Aelodaeth cymdeithasol o'r clwb golff , taladwy i'r clwb golff. Torrir hwn i lawr ymhellach
- Aelodaeth cymdeithasol y clwb golff = £40.
- Cerdyn bar y clwb golff = £25. Mae'r bar yn rhedeg system credid lle rhoddir cerdyn a gellir adnau arian arni.
Croeso i chi gysyllti â ni 'Cysylltu â Ni' am fanylion pellach.