Amdanom Ni

Grwp o unigolion sy’n wirfoddol yn codi arian er lles a gwellhad y pentref  ydi  Creigiau 23.

Mae’r aelodaeth oherwydd rhesymau hanesyddol yn wrywaidd ac wedi ei gyfyngu i 55 aelod. Y rheswm am hyn ydi , nid oherwydd rhesymau ein bod yn sefydliad gyfrinachol ond 55 yw’r mwyafrif y mae’r clwb golff yn medru ei gymryd ar gyfer ein ciniawau.

Yn ystod y flwyddyn rydym yn weithgar iawn yn hyrwyddo a trefnu gweithgareddau o fewn y pentref er enghraifft y carnifal, ymweliad Sion Corn â’r pentref â’r neuadd leol, taith gerdded ar Ddydd Sant Steffan, blasu gwin, noson i’r gwragedd a’r ddawns yn yr haf.

Rhoddir yr holl elw a godir o ganlyniad i’r gweithgareddau yn ôl i’r pentref trwy law nifer o gymwynaswyr. Mae rhain yn cynnwys Ysgol Gynradd Creigiau, Mudiad y Sgowtiaid, Y cylch Chwarae, Cylch Feithrin, Neuadd y Pentref a nifer o sefydliadau eraill.

Os hoffech ofyn am gyfraniad ewch at ran y  cais an gyfraniad a llenwch y ffurflen a welir yno.Am wyboadaeth ar  sut i ymuno â creigiau 23  ewch at y rhan aelodaeth.

Y Calendr Cymdeithasol

Mae’r calendr cymdeithasol yn rhedag yn flynyddol o fis Mawrth tan Chwefror gan apwyntio cadeirydd newydd ar gyfer pob sesiwn.

Mae’r calendr yn cynnwys 10 cinio bob mis ( heb gynnwys Gorffennaf ac Awst) ac fe’u cynhelir yng Nhlwb Golff Creigiau sydd wedi ei lleoli yng Nghanol y pentref.

Mae’r cyfarfod yn cynnwys pryd o fwyd a siaradwr . Gall pob aelod dod a gwestai gydag e (dibynnu ar rifau) . Felly os ydych newydd ddod i fyw i’r pentref ac heb gwrdd â llawer o bobl beth am ymuno â ni? Danfonwch e bost atom ac fe drefnwn i chi ddod i un o’n cyfarfodydd.

Mae’r siaradwyr fel arfer yn siarad rhwng ugain a deugain munud ar bwnc o’u dewis neu syniadau gennym ni.

Gall y siaradwyr  amrywio o fobl o fyd y chwaraeon , gwleidyddion, athrawon, personoliaethau o fyd y teledu ,gweithwyr elusenol i rywun sy’n dangos brwdfrydedd am ei pwnc.

Erbyn hyn edrychir arni fel anrhydedd yw i gael gwahoddiad i dod atom i siarad.

Hanes Creigiau 23

Ffurfiwyd Creigiau 23 tua 1970 gan criw o wyr bonheddig oedd yn byw yn y pentref.

Rhoddwyd yr  enw yma i’r sefydliad gan mai 23 o aelodau oedd pan y’i dechreuwyd ac mae’r enw wedi parhau ers hynny.

Ers y dyddiau hynny mae’r pentref wedi tyfu ac o ganlyniad rydym ninnau wedi tyfu gyda’r pentref ac bellach yn rhan bwysig iawn o’r gymuned.

Dros y blynyddoedd yr ydym wedi cael nifer o Cadeiryddion, fel gelli'r gweld isod !!

Blwyddyn Cadeirydd
23 Chwefror 2010 - 15 Chwefror 2011Mr Neil Humphreys
17 Chwefror 2009 - 23 Chwefror 2010Mr Phil Bevan
26 Chwefror 2008 - 17 Chwefror 2009Mr Adrian Burns
27 Chwefror 2007 - 26 Chwefror 2008Mr Hywel Tudor
28 Chwefror 2006 - 27 Chwefror 2007Mr Kevan Eveleigh
17 Chwefror 2005 - 28 Chwefror 2006Mr Chris Wilson
12 Chwefror 2004 - 17 Chwefror 2005Mr Huw Edwards
25 Chwefror 2003 - 12 Chwefror 2004Dr Peter Brooks
21 Chwefror 2002 - 25 Chwefror 2003Mr Steve Evans
27 Chwefror 2001 - 21 Chwefror 2002Mr Trevor Mordecai
23 Chwefror 2000 - 27 Chwefror 2001Dr Iwan Griffiths
21 Mai 1998 - 23 Mai 2000Mr Jim Prosser
25 Chwefror 1998 - 23 Chwefror 1998Mr Jeff Davies
26 Chwefror 1997 - 25 Chwefror 1998Mr Jim Smart
Chwefror 1996 - 26 Chwefror 1997Mr Harry Taylor
Chwefror 1995 - Chwefror 1996Mr Mike MacDonald
23 Chwefror 1994 - Chwefror 1995Mr Byron Edwards
Chwefror 1993 - 23 Chwefror 1994Mr Tony Llewellyn
Chwefror 1992 - Chwefror 1993Mr Gareth Davies
20 Chwefror 1991 - Chwefror 1992Mr Geoff Grocott
Medi 1989 - 20 Medi 1991Mr David Hodges
Chwefror 1989 - Chwefror 1989Mr Austin Winkler
17 Chwefror 1988 - Chwefror 1989Mr Lynn Thomas
Chwefror 1987 - 17 Chwefror 1988Mr Chris Holland
Medi 1985 - Medi 1987Mr Colin Pryce
Chwefror 1985 - Chwefror 1985Mr Arthur Cook
22 Chwefror 1984 - Chwefror 1985Mr Hywel Lewis
23 Chwefror 1983 - 22 Chwefror 1984Dr Melvyn Davies
17 Chwefror 1982 - 23 Chwefror 1983Mr Brian Parry
18 Chwefror 1981 - 17 Chwefror 1982Mr Gwyn Watkeys
27 Chwefror 1980 - 18 Chwefror 1981Mr Peter Samuel
28 Chwefror 1979 - 27 Chwefror 1980Mr Gabe Treharne
15 Chwefror 1978 - 28 Chwefror 1979Mr Arwel Ellis Owen
17 Chwefror 1977 - 15 Chwefror 1978Mr David Morris
18 Chwefror 1976 - 17 Chwefror 1977Mr Brian Davies
23 Hydref 1974 - 18 Hydref 1976Mr Elwyn Tudno-Jones
24 Hydref 1973 - 23 Hydref 1974Mr Gavin Thomas
25 Hydref 1972 - 24 Hydref 1973Mr Ted Morris
27 Hydref 1971 - 25 Hydref 1972Mr Chris Saunders
28 Hydref 1970 - 27 Hydref 1971Dr Peter Jones
21 Ionawr 1970 - 28 Ionawr 1970Mr Howard Evans