Gerry ac Eurof yn ymgeisio am Llundain 2012.

Gerry yn ymlacio cyn dechrauGerry yn ymlacio cyn dechrau
Gerry yn ymlacio cyn dechrau.

Cynhaliwyd un o achlysuron mwyaf poblogaeth Prydain y penwythnos diwethaf sef Marathon Llundain. Roedd yna lawer o ddiddordeb lleol gan bod enillydd y ras hwyl yng Nghreigiau Eurof Davies a pencampwr wy ar lwy yr ysgol 2001 Gerry O’Beirne yno ymhlith y rhedwyr.

Dydd Sul oedd diwrnod olaf i Flora noddi’r marathon. Yn ystod yr amser yma mae £422 miliwn o bunnoedd wedi ei godi i wahanol elusenau, yfwyd 92 miliwn o boteli o ddwr ac mae 458562 o redwyr wedi cymryd rhan

Y bechgyn y parod i ddechrau.Y bechgyn y parod i ddechrau.
Y bechgyn y parod i ddechrau.

Ar ddiwrnod braf â’r tymheredd yn 12°C roedd Gerry ac Eurof ymhlith 35,000 o redwyr eraill yn aros i Syr Chris Hoe ddechrau'r ras .

Dechreuodd y dynion elit sef Samuel Wanjiru, Tsegay Kebede ac Jaouad Gharib redeg yn gyflym gan redeg 4 munud a 35 eiliad am y milltir cyntaf gyda Gerry ac Eurof yn dyn ar ei sodlau.

Cododd y tymheredd i 16°C ac fe gyrhaeddodd Eurof hanner ffordd mewn 1awr 40 munud gyda Gerry 3 munud ar ei ôl. Roedd y ddau’n dal i weld y rhedwyr elit , er eu bod ochr arall y ffordd yn dod yn ôl o’r Isle of Dogs tra bod ein bechgyn ar eu ffordd i’r dociau.

Roedd y ddau yn eu ugeiniau, Wanjiru a Kebede yn edrych yn ffres fel pebaent wedi bod yn loncian am ychydig tra bod y ddau yn ei pedwardegau yn methu cadw lan â’i eiddgarwch ieuanc.

Pan ofynnwyd i Eurof pryd welodd Gerry ddiwethaf dwedodd ‘tua’r Cutty Sark yn mwynhau craic gyda Ronan Keating.’

Nid wyf wedi gweld Gerry, ers yr Cutty Sark yn mwynhau craic gyda Ronan Keating.

Wrth i Wanjiru yfed ei siampen roedd Eurof yn dechrau blino wrth gyrraedd 17 milltir tra bod Gerry ychydig o filltiroedd tu ôl.

Wrth iddo rasio neu hercian lawr y mal ticiodd y cloc heibio i 3awr 30 munud roedd Eurof rhyw 40 metr o’r linell derfyn. 12 eiliad wedyn croesodd y linell.

Roedd Gerry erbyn hyn yn cyrraedd 25 milltir ac wedi gadael ei ffrind Ronan fe orffennodd mewn 3 awr 48 munud a 33 eiliad.

Wedi gorffenWedi gorffen.
Wedi gorffen.

Wrth drafod eu hymdrechion roedd y ddau yn hapus a’u hamser, Eurof â’u amser gorau mewn marathon yn Llundain a Gerry wedi gorffen yn gryf er iddo golli 4-5 wythnos o ymarfer ar ôl troi ei bigwrn.

Mae yna si ar led eu bod yn paratoi ar gyfer yr achlysur nesaf- Llundain 2012. Am fwy cadwch mewn cysylltiad âr wefan.

Hoffai Eurof ddiolch i bawb a’i gefnogodd ac fe lwyddodd i godi £800 tuag at elusen Arennau Cymru.

Adolygwyd ar Ebrill 29fed 2009