Newyddion
Daws Haf 2010- Noswaith o hwyl a sbri! |
Noswaith llwyddianus arall. Darllenwch yr adroddiad yma am hanes y noson.
|
Adolygwyd ar Gorffennaf 13fed 2010 |
Creigiau 23 yn 40 mlwydd oed! |
Pan wnaeth 23 o drigolion Creigiau gwrdd yn 1969, nid oeddynt yn disgwyl i’r gymdeithas for yn dal i fynd 40 mlynedd yn hwyrach. Dros y blynyddoedd mae Creigiau 23 wedi codi miloedd o bunoedd a rhoddir yr holl elw a godir o ganlyniad i’r gweithgareddau yn ôl i’r pentref trwy law nifer o gymwynaswyr. Mae rhain yn cynnwys Ysgol Gynradd Creigiau, Mudiad y Sgowtiaid, Y cylch Chwarae, Cylch Meithrin, Neuadd y Pentref a nifer o sefydliadau eraill. Os ydych am fwy o hanes Creigiau 23, cliciwch yma, ond mae’n ddrwg gyda ni and nid yw’r hanes wedi eu gyfieithu eto.
|
Posted on June 3rd 2010 |
Wâc Gŵyl San Steffan. |
Hanes wâc Gŵyl San Steffan eleni. Darllenwch e yma.
|
Adolygwyd ar Ionawr 14fed 2010 |
Siôn Corn yn Creigiau ! |
Efallai bod Sion Siôn yn brysur iawn ond oedd gydd ddigon o amser i ddod i Creigiau ar Noswyl Y Nadolig. Darllenwch y'r hanes yma.
|
Adolygwyd ar Ionawr 14fed 2010 |
Da iawn Gerry, unwaith eto! |
Llongyarchiadau Gerry ar ol rhedeg marathon Dulyn yn ddiweddar. Am adroddiad llawn ewch i'n tudalen newyddion Saesneg.
|
Adolygwyd ar Tachwedd 2il 2009 |
Dim criced, y tywydd yn fuddugol ! |
Am yr ail flwyddyn yn olynol canslwyd cystadleuaeth criced y pentref ar Awst y 30ain, oherwydd y tywydd gwael. Gwell lwc blwyddyn nesaf, yr ydym yn gobeithio.
|
Adolygwyd ar Medi 1af 2009 |
Noswaith o hwyl a sbri! |
Er bod y tywydd yn arw ti allan, cafwyd noswaith llwyddianus iawn ti fewn. |
Adolygwyd ar Gorffennaf 12fed 2009 |
Diwrnod arbennig unwaith eto! |
Mae’r wir I ddweud fod y carnifal yn mynd o nerth i nerth. Ac nid oedd eleni yn wahanol. Fe wnaeth y thema, ‘Y drwg a’r da’ rhoi ddigon a siawns I’r pentref ymunno mewn yn y hwyl. Am luniau ac addroddiad llawn , cliciwch yma. |
Adolygwyd ar Mehefin 28fed 2009 |
A oes rhywun wedi gweld Robin? |
Dechreuodd wythnos y Carnifal yn llwyddiannus iawn gyda'r ras hwyl flynyddol. Yn ogystal â rhedeg o gwmpas y cae, eleni cafwyd nifer o wahanol rasys, gan gynnwys wy ( neu daten ) ar lwy, ras tair coes a'r gystadleuaeth Olympaidd newydd, y ras gyfnewid i'r teulu.
Gwelwyd llawer o'r "Goodies and Baddies" yn crwydro o gwmpas y cae yn paratoi eu hunain am y carnifal Dewch nôl wythnos nesaf i weld a ddaeth Batman o hyd i Robin! |
Adolygwyd ar Mehefin 20fed 2009 |
Gerry ac Eurof yn ymgeisio am Llundain 2012. |
Mis diwethaf ein tîm sgio oedd yn y newyddion y tro yma ein athletwyr sydd yn y pennawdau. Cliciwch yma er mwyn darllen yr adroddiad llawn |
Adolygwyd ar Ebrill 29fed 2009 |
Y Magnificent 7 yn cyrraedd adref. |
Llongyfarchiadau i dîm sgio Creigau 23 ar gyrraedd adref mewn un darn, or ôl eu taith sgio diweddar. Er eu bod yn sgiwyr profiadol, dim ond nawr y maent yn ceisio am y gemau Olympaidd. Gyda ‘Mogul’ Mike, Phil ‘The Chair’, ‘Apres-Ski’ Amodeo, a 'Eagle' Eves ar flaen y gâd, gobeithio eu bod yn ysbrydoliaeth i ni gyd. Mae sôn fod y ‘Magnificent 7’ yn trefnu taith arall blwyddyn nesaf, felly, I’r weddill yr aelodau I, mae angen dechrau ymarfer nawr !!!!!. Stop Press. Mae'r adroddiod swyddogol wedi cyrraedd , cliciwch yma er mwyn ei ddarllen. |
Adolygwyd ar Mawrth 31fed 2009 |
Da Iawn Adrian a'r flwyddyn llwyddiannus. |
Yr wyf yn siwr ni fyddai yn cyfaddef, ond yr wyf yn meddwl yr oedd ambell i achlysur pan oedd Adrian fel yr hwyaden diarhebol, yn arnofio yn urddasol uwchben y dwr ond yn padlo fel rhywbeth gwyllt oddi tan. Ar ambell i noson ginio, er fod Adrian yn siarad gyda phawb yn ddifater ger y bar, yr oedd neb yn gwybod taw dim ond ychydig amser cyn hynny yr oedd wedi sicrhai bod gennym gwr gwadd. Dileiwyd cystadleuaeth criced y pentref oherwydd y tywydd, ac eithrio hynny yr oedd pob un o'r ddigwyddiadau arall yn lwyddiant ysgubol. Eleni cynhalwyd dawns yr haf yn ystod Mis Medi ond ni wnaeth hynny effethio dim ar yr hwyl o gwbl, i'r gwrthwyneb. Y thema oedd 'Noswaith Vegas' gyda'r seren TOM JONES International Sex Bomb yn creu'r adloniant. Mwy am hynny islaw. Yr wyf yn siwr fod pawb yn cytuno bod eleni wedi bod yn lwyddiant ysgubol. Da iawn ti Adrian!!. |
Adolygwyd ar Mawrth 11fed 2009 |
Noson y Gwragedd |
Noswaith arbennig eto ! Er fod y rhifau i lawr eleni, cafodd pawb a oedd yn bresennol noswaith arbennig, gyda bwyd da ac adloniant bendigedig. Y 'Fraser Lawsen Band' wnaeth ddarparu'r miwsig a llwyddont i gadw pawb i ddawnsio trwy's nos. |
Adolygwyd ar Ionawr 20fed 2009 |
Taith dydd Sant Steffan 2008. |
Am 10.30 ar fore Sant Steffan daeth criw selog o bobl o Creigiau a'r cyffuniau i gwrdd wrth y Creigiau Inn. Erbyn hyn mae hwn yn sefydliad blynyddol sydd wedi tyfu'n arithrol, ac bellach yn denu tua 250 o gerddwyr. Mae hun yn bendant yn dyddiad i'w roi yn y dyddiadur. Eleni, aeth y daith i fyny trwy'r caeau i Bentyrch. Arhosom am liniaeth yn Ysgol Craig Y Parc ( Pencadlys Scope ) sydd eto eleni wedi bod yn garedig yn caniatai i ni ddefnyddio eu cyfleusterau. Hyfryd oedd cael cwpaned o 'mulled wine', mins pei, pop a creision, wrth gael ein gwynt yn l atom. Ar l y daith mae pawb yn gwneud eu ffordd i'r dafarn Creigiau Inn i ddymuno Nadolig Llawen i'w ffrindiau a'u cymdogion, ac i ymarfer ychydig o'u breichiau wrth gwrs ! Diolch i Jackie, Kath a Sarah am y lliniaeth ac i bawb arall a fu'n cyfrannu.
|
Adolygwyd ar Ionawr 3ydd 2009 |
Sion Corn yn Neuadd y Pentref |
Noswyl Nadolig ........fel arfer mae pawb yn y dafarn, ond nid criw gweithgar Creigiau 23. Roeddent yn brysur yn helpu Sion Corn o gwmpas y pentref ar gefn ei slêd. Ar ol gorffen mynd o amgylch stryddoedd cul y pentref, fe wnaeth ymweld Neuadd y Pentref i gyffro mawr y plant a'r rhieni. Diolch i bawb am eu help ac i'r gwragedd am adeal i'w g?yr fynd allan o'r t? mewn dillad mor wirion!
|
Adolygwyd ar Ionawr 3ydd 2009 |
Noswaith Vegas - Dawns Haf |
Am Noson ! Dechreuodd y noson gyda pryd o fwyd tri chwrs. Yma ymddangosodd Tom JONES International Sex Bomb ei hun. Yr oedd yn lwyddiant ysgubol gyda'r merched ac ambell i ddyn hefyd !!!
Ond os nad oeddech yn gwisgo'ch esgidiau dawnsio roedd yna rywbeth at eich dant chi hefyd, Olwyn Roulette. Cafodd pawb $100 o Fanc Creigiau23 i wario ar yr olwyn . Ian Hughes lwyddod i gael yr elw mwyaf ac enilloedd potel o champagne. Lwcus iawn. Gorffenwyd y noson gyda disco DJ Roger yn chwarae cerddoriaeth i blesio pawb. Noson gofiadwy iawn.
|
Adolygwyd ar Medi 30fed 2008 |