Siôn Corn yn cyrraedd Creigiau.
r y tywydd gwael, mae un peth yn sicr, gellir gweld Siôn Corn yn Neuadd y Pentref, Creigiau, beth bynnag bo'r tywydd.
Er i ni gollir 'BruceWagon' roedd y sled yn edrych yn wych yn enwedig ar ôl côt o baent ac roedd y coblynnod yn edrych ym smart ar y cefn.!
Dechreuodd y sled ar ei siwrnai ychydif ar ôl 4 o'r gloch, gyda'r coblynnod yn rhoi losin i'r plant wrth fynd o gwmpas y pentref..
Mae rhaid dweud yr oedd y coblynnod yn edrych yn grand eleni, Yn ôl y sôn roedd un neu ddau ohonynt wedi rhedeg marathon Llundain a Dulyn, efallai y dylai'r prif coblyn feddwl am wneud yn un peth !!
Er y tywydd rhewllyd, gwnaeth Rudolff ei waith yn arbenigol wrth fynd o gwmpas y pentref, heb fwrw neb nac unrhywbeth. Mae'n sicr y gallai ddysgu un neu ddau beth i Tiger Woods!!
Yn rhyfeddol, cyrhaeddodd Siôn Corn y Neuadd ar amser lle oedd criw mawr yn aros amdano, a tra bod band CAVMS yn chwarae carolau bu Siôn Corn yn brysur iawn yn rhoi losin i'r plant a oedd yn aros yn amyneddgar.
Er bod y prif goblyn wedi diflannu (i'r Creigiau Inn siwr of fod) roedd gweddill y coblynnod yn gweithio'n galed. Deathpwyd o hyd i'r prof goblyn yn y Creigiau inn lee cafwyd pwyllgor answyddogol.
Diolch i bawb am helpu i greu noson llwyddiannus iawn unwaith eto.







