Dewiswch eich iaith

 

 

Yn Cefnogi y Gymuned

Croeso.


Mae Creigiau 23 yn sefydliad gwirfoddol sydd wedi ei seilio yng Nghreigiau ger Caerdydd, prifddinas Cymru.

Prif bwrpas y sefydliad yw i godi arian yn wirfoddol er lles y pentref tra yn ogystal yn hyrwyddo calendr cymdeithasol llawn a phrysur.


 

Newyddion Diweddar.

Rydym yn drist iawn o glywed am farwolaeth cyn-aelod o Creigiau23, yr Athro Delme Bowen.
 
Roedd Delme yn ffigwr hynod barchus yn ein cymuned, gan wasanaethu Creigiau a Sain Ffagan gyda ymroddiad dros nifer o flynyddoedd, ac yn ddiweddarach yn dod yn Arglwydd Faer Caerdydd yn 2011–2012, y cyntaf o Blaid Cymru i ddal y swydd.
 
Rydym yn arbennig o falch o’r cysylltiad a gynhaliodd gyda Creigiau23. Un achlysur cofiadwy i’n haelodau oedd y gwahoddiad i’r Mansion House yn ystod ei gyfnod fel Arglwydd Faer — yn adlewyrchu ei gefnogaeth barhaus a’i falchder yn y gymuned a gynrychiolodd.
 
Ni fydd cyfraniad Delme i fywyd cyhoeddus, addysg, a’n hardal leol yn cael ei anghofio.
 
Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad dwys gyda’i deulu a’i ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd hwn.
 
db

Cyhoeddiadau

  • Fe fydd ein cyfarod nesaf yn Mis Mai.

Siaradwyr diweddar

  • Mawrth 2026

    Mawrth 2026

    Diolch yn fawr iawn i Peter Davies am fod yn siaradwr gwadd gyda ni heno. Fel arwydd o’n diolch, roedd aelodau Creigiau23 yn falch o gyflwyno siec o £150 i ABF.
  • Mai 2023

    Mai 2023

    Karl Davies yn derbyn rhodd oddiwrth Rob Evans. Hefyd yno oedd Mark Landon.
  • Ebrill 2023

    Ebrill 2023

    Chris Lloyd yn derbyn rhodd i Ysbyty Velindre oddiwrth Rob Evans. Hefyd yno oedd Mark Landon.
  • Mawrth 2023

    Mawrth 2023

    Yuliya Trukhan yn derbyn oddiwrth Tony Crane. Hefyd yno oedd Mark Landon.